Sut i adfer eich system dŵr yfed
Yn Dŵr Cymru, ein cyfrifoldeb pwysicaf yw darparu dŵr yfed glân a diogel ar gyfer 1.4m o gartrefi a busnesau 24 awr y dydd, 365 diwrnod o’r flwyddyn.
Yn ystod pandemig COVID-19, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i gynnal cyflenwadau dŵr pobl, ac amddiffyn ein cwsmeriaid trwy ddarparu dros 900 miliwn o litrau o ddŵr glân bob dydd.
Yn rhan o'n rôl, rydyn ni'n cyflawni 300,000 o brofion dŵr bob blwyddyn ac yn gweithio gyda chwsmeriaid i sicrhau ei fod o safon uchel. Yn sgil cyfyngiadau cymdeithasol Llywodraeth Prydain a ddaeth i rym i fusnesau a sefydliadau eraill ar 23 Mawrth, mae llawer o adeiladau a safleoedd wedi bod ar gau am gyfnod estynedig. Mae hyn yn gallu effeithio ar ansawdd y dŵr ar y safleoedd hyn, am fod llawer o systemau dŵr yfed (gan gynnwys pibellau a thanciau storio dŵr) mewn adeiladau gwaith wedi bod yn segur yn ystod y cyfyngiadau.
Mae hyn yn gallu cael effaith niweidiol ar ansawdd y dŵr yfed, a gallai beryglu iechyd pobl. Felly mae hi’n bwysig eich bod chi’n cymryd camau penodol cyn dechrau defnyddio’r adeilad eto. Dylai ein hawgrymiadau a’n hatebion i gwestiynau isod eich tywys chi drwy’r broses.
Cwestiynau Cyffredin
Dŵr marw yw unrhyw ddŵr sydd wedi bod yn sefyll yn eich pibellau neu’ch tanciau storio am fwy na 24 awr.
Mae dŵr marw yn gallu golygu:
- Bod y dŵr yn y systemau plymio mewnol yn twymo
- Bod tyfiant microfiolegol (fel bacteria) yn datblygu yn y dŵr
- Bod mwy o'r metelau o'r system blymio'n ymdreiddio i'r dŵr
Gallai hyn roi blas, golwg neu arogl ychydig bach yn wahanol i’r arfer i’ch dŵr, ond gallai olygu bod y bacteria yn y dŵr yn cyrraedd lefelau a all fod yn beryglus hefyd, felly mae hi’n bwysig dilyn ein canllawiau er mwyn sicrhau bod eich dŵr yn ddiogel i’w yfed.
Dylai unrhyw un sy’n gyfrifol am baratoi adeilad neu safle i’w ailagor ar ôl cyfnod o fod ar gau yn sgil Covid-19 ddilyn y canllawiau hyn. Mae hyn yn cynnwys perchnogion adeiladau, landlordiaid, rheolwyr a gweithredwyr cynlluniau Adlenwi.
Gallwch ail-gomisiynu eich system dŵr yfed trwy ddilyn y camau yma:
- Os yw eich dŵr yn dod o danc storio, gwagiwch eich sestonau storio a'u hadlenwi â dŵr yn uniongyrchol o'r cyflenwad sy'n dod i mewn i’r adeilad, cyn fflysio'r holl dapiau.
- Rhedwch yr holl dapiau yn eich adeilad neu'ch safle’n unigol (fflysio yw'r enw ar hyn). Dechreuwch gyda'r tap sydd agosaf at y fan lle mae'r cyflenwad dŵr yn dod i mewn i'r adeilad a symudwch yn systemataidd i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd, nes bod y dŵr yn glir ac yn teimlo'n oer.
- Wrth fflysio'r dŵr fel hyn, rhaid sicrhau eich bod chi'n lleihau'r perygl bod diferion bach o ddŵr yn mynd i'r awyr e.e. trwy dynnu pennau cawodydd, agor tapiau'n araf bach, a chau’r caead ar y tai bach cyn fflysio am y tro cyntaf. Dylech ystyried diogelwch y bobl sy'n fflysio'r system fel hyn hefyd trwy ddarparu'r cyfarpar diogelu priodol fel masg er mwyn sicrhau nad ydynt yn mewnanadlu diferynnau o ddŵr.
- Gwnewch yn siŵr bod eich holl gyfarpar cael ei fflysio'n drylwyr cyn ei ddefnyddio hefyd, gan ofalu i ddilyn cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr.
- Os oes hidlyddion neu feddalwyr dŵr mewnol gennych, dilynwch gyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr i sicrhau eu bod nhw'n gweithio'n iawn. Holwch y gweithgynhyrchwr am y risg o dwf microbaidd ar hidlyddion neu resin meddalu os ydyn nhw wedi bod yn segur mewn dŵr am gyfnod estynedig - mae'n bosibl y byddant yn eich cynghori i adnewyddu’r rhain.
- Ystyriwch gyfarpar sy'n gysylltiedig â'r cyflenwad dŵr y tu allan i'r adeilad e.e. teclynnau chwistrellu, a fflysiwch y rhain yn ddiogel a chan ddilyn canllawiau'r gweithgynhyrchwr.
- Yn achos adeiladau mwy, fel y rhai â thanciau, cawodydd, caloriffyddion (neu wresogyddion dŵr sy'n cael eu tanio'n anuniongyrchol), ac adeiladau lle mae pibellwaith mwy cymhleth, mae’n debygol y bydd angen i chi gyflawni gwaith fflysio mwy helaeth ynghyd â glanhau a diheintio yn ogystal â dilyn y camau uchod. Os yw eich system blymio'n un cymhleth, gwnewch yn siŵr fod rhywun medrus yn goruchwylio'r gwaith yma. Pan fyddwch chi'n barod i ail-gomisiynu’ch cyflenwad dŵr, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud hyn yn gyson â'ch cynllun rheoli diogelwch dŵr, gan gynnwys profi pwysedd eich holl systemau.
Mae'n bosibl na fyddech wedi cael cyfle i gwblhau eich trefniadau glanhau a chynnal a chadw arferol pan cyhoeddwyd cyfyngiadau ar symud. Gallai hynny olygu bod gwastraff wedi cronni yn eich draeniau a'ch pibellau, ac nad yw'r cyfarpar sy'n atal braster, olew a saim rhag mynd i'r pibellau wedi cael ei lanhau ers amser.
Er mwyn osgoi achosi tagfeydd yn y garthffos, a allai fod yn ddrud i’w clirio, dilynwch y camau hyn:
- Glanhewch eich cyfarpar - cyn dechrau coginio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n glanhau eich system rheoli saim yn ofalus yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
- Archwiliwch eich draeniau a gylïau eich sinc - os nad yw'r draeniau a'r sinciau wedi cael eu defnyddio ers amser, mae'n bosibl y bydd gwastraff wedi sychu a mynd yn sownd wrthynt. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw floc yn y gylïau a fflysiwch eich draeniau â dŵr. Gallech ddefnyddio hylif bio-ddosio neu hylif chwalu braster wrth baratoi i ailagor hefyd, ond ni ddylai hyn gymryd lle eich system rheoli saim pan fyddwch chi'n gweithredu eto.
- Defnyddiwch hidlyddion yn y sinc i atal gwastraff rhag mynd i'r draeniau a'r pibellau - mater o arfer gorau yw hyn ac mae'n atal gwastraff rhag tagu'r pibellau.
- Atgoffwch dîm y gegin i roi gwastraff bwyd yn y bin, ac i osgoi rhoi braster, olew a saim yn y draeniau a'r sinciau.
- Archwiliwch eich tai bach - fflysiwch y tai bach sawl gwaith i sicrhau eu bod nhw'n dal i lifo.
Os oes arnoch angen cyngor neu gymorth i helpu i osgoi achosi tagfa yn y garthffos wrth ailagor eich busnes, cysylltwch â'n tîm Atal Tagfeydd ar 0800 085 3968 neu trwy letsstoptheblock@dwrcymru.com.
Mae canllawiau technegol ar Legionella ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yma.
Mae’r Gymdeithas Rheoli Legionella wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol:
Os ydych chi wedi bod yn fflysio eich system ddŵr yn rheolaidd, yna byddem yn argymell fflysio’r system unwaith yn rhagor cyn dechrau defnyddio’r adeilad neu’r safle eto.
Ar ôl fflysio’ch system dŵr oer, edrychwch i weld os yw’r dŵr yn edrych yn glir ac yn normal, ac yna profwch dymheredd y dŵr o’r tapiau sydd agosaf a phellaf wrth y fan lle mae’r brif bibell yn dod i mewn i’r adeilad. Os ydyn nhw’r un tymheredd a’r dŵr yn glir, yna mae hynny’n arwydd da bod unrhyw ddŵr marw wedi cael ei fflysio allan.
Dylech ystyried materion iechyd a diogelwch i’r bobl hynny sy’n cyflawni’r gwaith fflysio. Dylech ddarparu PPE priodol ar eu cyfer, fel masg i’w hatal rhag anadlu diferynnau o ddŵr i mewn. Wrth iddynt fflysio’r system, dylech sicrhau eu bod yn defnyddio’r tapiau a’r cawodydd mewn ffordd sy’n lleihau faint o ddŵr a diferynnau sy’n lledu yn yr awyr, fel troi’r tapiau’n araf, cadw seddi’r tai bach i lawr, a thynnu pennau chwistrellu cawodydd. Dylid diheintio pennau cawodydd cyn eu hailgysylltu.
I gael rhagor o wybodaeth ar sicrhau bod dŵr yfed eich adeilad yn ddiogel i'w yfed, ewch i wefan Water UK yma sy’n cynnwys nodyn briffio â dolenni at ganllawiau a chynghorion pellach gan y llywodraeth a'r rheoleiddwyr.